Brigyn

Seren
Ma siwr ti'm isio hyn,rhyw gwyno ar gân o lais hogyn,ti'm am glywed, ond wedyn,mae nagrau i'n llenwi llyn.Oedd hi'n anodd iawn heno,yn y nos efo neb i wrando,a dod draw oedd rhaid am dro,dod atat i'r stryd eto.Dwi'n cofio'r adeg pan oedd na wegianyn dy goesau yn eiliad y gusan,cofio chdi'n fy neud i'n wan, a chofio'rbyd ar agor, a'r byw darogan...A heno dwi ym mhen y daitha dwisio gwbod oes gobaithy doi di'n ôl, dim ond un waith.Edrych, os wyt ti adra,yn wyneb y ffenest a gwena,ar wiriondeb jysd gwranda,dwi'n ysu deud un nos da. From Letras Mania