Brigyn

Haleliwia
Mewn dwrn o ddur mae'r seren wenMae cysgod gwn tros BethlehemDim angel gwyn yn canu Haleliwia.Codi muriau, cau y pyrthTroi eu cefn ar werth y wyrthMor ddu yw'r nos ar strydoedd Palesteina.Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.Mae weiran bigog gylch y crudA chraith lle bu creawdwr bydMae gobaith yno'n wylo ar ei glinia'A ninnau'n euog bob yr unYn dal ei gôt i wylio'r dynYn chwalu pob un hoel o Haleliwia.Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.Mae'r nos yn ddu mae'r nos yn hirOnd mae na rai sy'n gweld y gwirYn gwybod fod y neges mwy na geiria'Mai o'r tywyllwch ddaw y wawrA miwsig ddaeth â'r muriau lawrDaw awr i ninnau ganu Haleliwia.Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia. From Letras Mania