Brigyn

Diwrnod Marchnad
Mae'n fore llwm, mae'n glawio'n drwmOnd codi sydd rhaid, ac wynebu'r byd sydd o mlaenAwyr lwyd, y bws yn hwyrFy nghroen ar dân, wedi i mi siafio'n groes i'r graenDwi'n teimlo'n hun yn baglu, ac yn methu sefyll fynyA dwi'n cael fy amgylchynu gan y cannoedd sy'n mynd a dod.Yr un yw'r bwrlwm eto, fydd o drosodd erbyn heno -Bydd y stwff ma i gyd, mewn pryd, yn bell o fy nghof.Mae'n ddiwrnod marchnad ac mae pob man yn agoredDwi'n cerdded lawr y stryd - prin dwi'n gweld fy nhraedMae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n anodd clwadMae'r lleisiau yn bargeinio, a'r ceiniogau yn seinio i dôn fyddarol eu gwaedd.Mae bywyd yn braf, er nad yw byth yn rhwyddMae bywyd i fyw, er gwaetha yr holl lwythY cwmni'n gyfarwydd, ond pob wyneb yn ddiarthyn estyn am y peth agosaf o unrhyw werthDwi'n teimlo'n hun yn baglu, ac yn methu sefyll fynyA dwi'n cael fy amgylchynu gan y cannoedd sy'n mynd a dod.Yr un yw'r bwrlwm eto, fydd o drosodd erbyn heno -Bydd y stwff ma i gyd, mewn pryd, yn bell o fy nghof.Mae'n ddiwrnod marchnad ac mae pob man yn agoredLetras de cancionesDwi'n cerdded lawr y stryd - prin dwi'n gweld fy nhraedMae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n anodd clwadMae'r lleisiau yn bargeinio, a'r ceiniogau yn seinio...Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n amser panedDyma'r lle, sy'n gwerthu'r te gorau yn y bydMae'n ddiwrnod marchnad ac yn yr holl brysurdebTi'n gweld dy hun yn rhan o'r llun...yn rhan o'r llun... yn rhan o'r llun... yn rhan o'r llun. From Letras Mania