Cerys Matthews

Deio
Mi dderbyniais bwt o lythyr, Oddiwrth Mistar Jones o'r Brithdir, Ac yn hwnnw'r oedd o'n gofyn Awn i hefo Deio o Dywyn. Fe gychwynnwyd ar nos Wener Cyrraedd i Fawddwy erbyn swper; Fe gaed yno uwd a menyn Wrth fynd hefo Deio i Dywyn. Dod ymlaen ac heibio'r Ddinas Bara a chaws a chwrw yng Ngwanas, Pan gyrhaeddsom Dalyllyn Wrth fynd hefo Deio i Dywyn. Dod ymlaen at Aberygynolwyn Ac ymlaen at Graig y Deryn: Pan gyrhaedd'som Ynys Maengwyn. Gwaeddai Deio, 'Dacw Dywyn!' Os byddai'n byw un flwyddyn eto Mynna'n helaeth iawn gynilo- Mi ga'i bleser anghyffredin Wrth fynd efo Deio i Dywyn! From Letras Mania