Charlotte Church

Three Welsh Bird Songs: Mae Hiraeth Yn Y Môr
Mae hiraeth yn y mor a'r mynydd maith Mae hiraeth mewn distawrwydd ac mewn can Mewn murmur dyfroedd ar dragwydd daith Yn oriau'r machlud ac yn fflamau'r tan Ond mwynaf yn y gwynt y dwed ei gwyn A thristaf yn yr hesg y cwyna'r gwynt Gan ddeffro adlais adlais yn y brwyn, Ac yn y galon, atgof atgof gynt Fel pan wrandawer yn y cyfddydd hir Ar gan y ceiliog yn y glwyd gerlaw: Yn deffro caniad ar ol caniad clir O'r gerddi agos, nes o'r llechwedd draw Y cwyd un olaf ei leferydd ef A mwynder trist y pelter yn ei lef From Letras Mania