Brigyn

Tu ôl i’r wên
Tu ôl i’r wên, ti’n dawel yno’n cuddio A minnau’n gobeithio dy fod ti’n edrych arna i Tu ôl i’r wên, mae’r teimlad ynai’n cydio ond dydw i ’mond yn twyllo’n hun, wrth ddiflanu i fy nghysgod du Tu ôl i’r wên, yn ddisglair yn y golau a finnau’n trio ’ngorau i gael eiliad o’th sylw prin Tu ôl i’r wên, dychmygu bod mewn cariad Ac mi af innau i ystyried os wyt ti’n ffitio’r esgid hon? A wnei di wisgo yr esgid hon? Tu ôl i’r wên, mae’r teimlad o hyd yn cydio Fel gweiddi lawr hen simne fawr, sy’n mygu yn y glaw Tu ôl i’r wên, mi af innau’n ôl i guddio A byw o hyd i obeithio y daw hi’n ôl i’m myd ... rhyw ddydd From Letras Mania