Fyswn i... fysa ti? Letra

Brigyn

Otras Canciones

Letra de Fyswn i... fysa ti?
Fyswn i, os fysa ti'n rhoi dy fys yn y tân
Fyswn i, os fysa ti'n neidio i'r pen dwfn
Fyswn i, os fysa ti'n hau ac yn medi'r grawn
Fyswn i, os fysa ti'n udo ar y lleuad llawn

Ges ti dy boeni gan amheuon, dy lethu gan demtasiwn?
Nes ti fentro brathu'r afal oedd yn wenwyn trwyddo'i gyd
Ddes ti yma i nghynhyrfu, ac eistedd yno'n gwenu
Ddes ti yma mond i darfu arna i

Ond does na unlle i droi
Unlle i ddianc, unlle i ffoi
Does na unlle i droi
Unlle i guddio, unlle i droi
Does na unlle i ffoi

Fyswn i, os fysa ti'n rhoi dy fys yn y tân
Fyswn i, os fysa ti'n neidio i'r pen dwfn

Nes ti achub ar dy gyfle, a 'nal i dan gyfaredd
Ac mi glywson ni y bleiddiaid yn udo ar y lloer
Ddes ti yma i nghynhyrfu, ac eistedd yno'n gwenu
Nes i geisio cadw mhwyll, ond ro'n i dan dy swyn

Fyswn i ... fysa ti?